2020 Rhif (Cy. )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 24K newydd yn Rheoliadau 2003. Mae’r rheoliad 24K newydd yn darparu na chaiff awdurdod lleol godi swm ar ei gyfrif refeniw i adlewyrchu unrhyw amrywiad yng ngwerth teg buddsoddiad awdurdod lleol mewn cronfa fuddsoddi gyfun. Yn hytrach, rhaid cofnodi’r symiau hynny mewn cyfrif ar wahân sydd wedi ei greu at y diben hwnnw yn unig ac a ddefnyddir at y diben hwnnw yn unig.

Caiff gwerth teg buddsoddiad awdurdod lleol mewn cronfa fuddsoddi gyfun ei ganfod yn unol ag arferion cyfrifyddu priodol fel y’u diffinnir yn rheoliad 25 o Reoliadau 2003. Nid yw’r driniaeth gyfrifyddol hon i fod yn gymwys i gydnabyddiaeth o golled yn sgil lleihad yng ngwerth y buddsoddiad hwnnw fel y cydnabyddir o dan yr arferion cyfrifyddu priodol hynny, nac yn gymwys i unrhyw warediad (gan gynnwys gwerthiant) o’r buddsoddiad hwnnw. Nid yw ychwaith yn gymwys i fuddsoddiadau a wneir gan awdurdod lleol yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod gweinyddu cronfa bensiwn llywodraeth leol.

Bydd rheoliad 24K yn gymwys i gyfrifon a baratoir ar gyfer blynyddoedd ariannol mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau â 1 Ebrill 2019 ac sy’n gorffen â 31 Mawrth 2023.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol.


 

2020 Rhif (Cy. )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed                                31 Ionawr 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       04 Chwefror 2020

Yn dod i rym                         31 Mawrth 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 21(1), 24 a 123(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2020.

(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2003” yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003([2]).

Enillion a cholledion gwerth teg cronfeydd buddsoddi cyfun

2. Yn Rheoliadau 2003, ar ôl rheoliad 24J mewnosoder—

Fair value gains and losses of pooled investment funds

24K.—(1) In this regulation—

“administering authority” means an administering authority as defined in Schedule 1 to the Local Government Pension Scheme Regulations 2013([3]);

“fair value” has the same meaning as in Regulation 25A to these Regulations;

“fair value gain or loss” means a change in the fair value of an investment;

“pooled investment fund” means—

(a)   a money market fund; or

(b)   an investment scheme approved by the Treasury under section 11(1) of the Trustee Investments Act 1961([4]) (local authority investment schemes).

(2) Paragraph (3) applies where a local authority—

(a)   invests in a pooled investment fund (other than in its capacity as an administering authority in relation to a pension fund); and

(b)   a fair value gain or loss experienced on the authority’s investment in that pooled investment fund would otherwise be charged to a revenue account by that local authority in accordance with proper practices.

(3) Where this paragraph applies, the local authority—

(a)   must not charge to a revenue account an amount in respect of that fair value gain or loss; and

(b)   must charge that amount to an account established, charged and used solely for the purpose of recognising fair value gains and losses in accordance with this regulation.

(4) Paragraph (3) does not apply in respect of—

(a)   an impairment loss in relation to the authority’s investment in a pooled investment fund as recognised in a revenue account of the authority in accordance with proper practices; or

(b)   a sale or other disposal of the whole or any part of the authority’s investment in a pooled investment fund.

(5) This regulation applies in relation to accounts prepared for financial years falling within the period beginning with 1 April 2019 and ending with 31 March 2023..

 

 

 

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Lleol, un o Weinidogion Cymru

31 Ionawr 2020



([1])   2003 p. 26. Diwygiwyd adran 24 gan adran 238(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p. 28). Mae’r pwerau o dan Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, yn rhinwedd adran 24 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 fel y’i diwygiwyd.

([2])   O.S. 2003/3239 (Cy. 319), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2004/1010 (Cy. 107), 2006/994 (Cy. 93), 2006/2914, 2007/1051 (Cy. 108), 2008/588 (Cy. 59), 2009/560 (Cy. 52), 2010/685 (Cy. 67), O.S. 2014/481 (Cy. 58), O.S. 2016/102 (Cy. 50) ac O.S. 2018/325 (Cy. 61).

([3])   O.S. 2013/2356.

([4])   1961 p. 62.